Property Search
Area
Bedrooms

Property Alerts
Forename
Surname
Mobile
Min Rent
Max Rent
Beds




Gwasanaethau i Landlordiaid.

Byddai 97% o landlordiaid yn argymell Pinnacle i landlord arall. Byddwn yn holi ein holl landlordiaid yn flynyddol am eu barn ynglyn â gwasanaeth Pinnacle. Rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i adborth landlordiaid ac yn defnyddio canlyniadau’r arolwg i’n helpu i wella ymhellach ein gwasanaeth.

Credwn fod ein marchnata a’n hagwedd gadarnhaol i gael y pris gorau i chi yn ddihafal. Rhowch eich eiddo i ni ac fe roddwn gyhoeddusrwydd iddo!



  Gwasanaeth Rheoli Eiddo.

Gadewch i ni ysgwyddo’r pwysau. Ein gwasanaeth rheoli eiddo cynhwysfawr yw ein cryfder. Wedi dod o hyd i denant i chi byddwn yn edrych ar eu hôl hwy a chithau drwy gydol cyfnod y denantiaeth.
• Derbyn a thalu rhent i chi gyda chyfriflen o’r cyfrif - cyfrifir am bob ceiniog
• Stocrestr agoriadol drylwyr er mwyn gwarchod eich eiddo a’i gynnwys
• Trefnu gwaith atgyweirio gyda’ch cymeradwyaeth chi gan ddefnyddio contractwyr dibynadwy, cystadleuol, proffesiynol wedi eu hyswirio
• Trawsgyfeirio stocrestrau a chynghori a negodi unrhyw dyniadau diwedd tenantiaeth
• Diweddariadau i gleientiaid er mwyn rhoi adroddiadau cyflwr yn dilyn ein harchwiliadau
• Trefnu offer dodrefn er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau cyfredol
• Trefnu adnewyddu blynyddol ar dystysgrifau nwy ac ati.

  Gwasanaeth Canfod Tenant

• hysbysebu eich eiddo drwy farchnata datblygedig ar y rhyngrwyd. Bydd darpar denantiaid yn ymweld â’n gwefannau 11,000 bob mis!
• mynd gyda darpar denantiaid i weld eiddo
• cynnal gwiriadau ar y geirdaon priodol a chynnal gwiriadau eraill
• llunio a llenwi cytundebau tenantiaid i gydymffurfio â’r deddfau a’r rheoliadau cyfredol