Landlordiaid.
Mae Cartrefi Pinnacle wedi bod yn gosod ac yn gofalu am eiddo landlordiaid ers 1997. Mae nifer o Gymry Cymraeg yn defnyddio gwasanaethau Pinnacle oherwydd y gwasanaeth Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys y gallu i drefnu apwyntiadau ar ein gwefan Gymraeg a’r dewis i arwyddo cytundeb tenantiaeth yn Gymraeg. Mae cyflenwad cyson o weithwyr proffesiynol Cymraeg eu hiaith yn gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol, Llywodraeth Leol a’r cyfryngau sy’n chwilio am fflatiau a thai o safon. Bydd myfyrwyr Cymraeg yn dod at Pinnacle yn benodol i rentu tai myfyrwyr yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest. Llwythwch i lawr bamffledyn ar gyfer landlordiaid.
Cysylltwch a Llyr.Gwyndaf@pinnacle-group.com neu 029 20 640200.
|
|
|
|
|
|
Barn Landlord.
"Mi rydw i wedi bod hefo Pinnacle ers blynyddoedd ac mae eu cyngor, gwasanaeth a'u safonau yn bethau i'w parchu. Heb os nac oni bai, mi fyswn yn cymeradwyo unrhyw un i brofi eu gwasanaeth , mae gen i barch mawr at eu gwaith a'u gonestrwydd. Cwmni cwl, caboledig, Cymreig. " Stifyn Parri.
www.MrProducer.co.uk
|
|
|
|