Property Search
Area
Bedrooms

Property Alerts
Forename
Surname
Mobile
Min Rent
Max Rent
Beds




Cyfarwyddwyr Pinnacle yn Downing Street.

Mae dau entrepreneur o Gaerdydd wedi cael eu hysbrydoli i fwrw ‘mlaen gyda gwasanaeth busnes newydd ar ôl cyfarfod â'r Arglwydd Mandelson yn Stryd Downing. Roedd Wyn Griffiths a Glyn Trott yn westeion mewn derbyniad a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog, Gordon Brown yn Rhif 10 yr wythnos diwethaf. Mae'r ddau yn rhedeg Asiantaeth Gosod Tai Pinnacle a LetMC.com, cwmni meddalwedd gosod tai.

Yn y derbyniad ar gyfer rhai o brif entrepreneuriaid ac arloeswyr Prydain. Anogwyd hwy gan yr Arglwydd Mandelson, yr Ysgrifennydd Busnes, i fanteisio i'r graddau mwyaf posibl ar y sefyllfa economaidd ddiffygiol bresennol drwy barhau i lansio mentrau busnes newydd . Byddant yn awr yn mynd ati i fwrw ‘mlaen gyda phrosiect i gynnig gwasanaeth mynd ar ôl rhent a chyfrifyddu canolog ar gyfer asiantaethau gosod tai ledled y DU. Roeddent cyn hyn wedi cynnal cynllun peilot o'r syniad gyda'u cwmni eu hunain, Asiantaeth Gosod Tai Pinnacle, sydd â changhennau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest.

Dywedodd yr Arglwydd Mandelson wrthynt ,
"Cafodd rhai o fusnesau mwyaf Prydain eu geni yn ystod dirwasgiad... Y pwynt yw dechrau eich busnes yn gynnar er mwyn bod yn barod ar gyfer y gwelliant, fel yr un sy'n mynd i ddod i'n cyfeiriad ni."

Dywedodd pennaeth Pinnacle a LetMC, Wyn Griffiths
"Roedd hi'n dda clywed gan y llywodraeth eu bod yn bwriadu cefnogi cwmnïau fel ein un ni sy'n dechrau tyfu, drwy'r cyfnod economaidd anodd hwn."

Yn ol i'r dudalen Newyddion..


  Hen Storiau.

Ebrill 2009:
Asiantaeth Gosod Tai Pinnacle yn Ne Cymru yw'r un orau yn y DU..

  Cyfryngau.

Rydan ni'n fodlon cael ein cyfweld ar gyfer cylchgronnau, radio neu theledu.
Cysylltwch a:-
llyr.gwyndaf@pinnacle-group.com 029 20 640 200
wyn.griffiths@letmc.com